|  |
| Gartref yn Sir Benfro |
|
Cefndir
Cymraeg yw fy ail iaith. ’Rwyf wedi caru’r iaith ac wedi gallu ei deall a’i darllen ers fy mhlentyndod yn Abergwaun a Thŷ Ddewi. Ar ôl dechrau gweithio fel storiwraig, penderfynais fod rhaid i fi ddysgu siarad yn rugl er mwyn gallu dweud storïau yn y Gymraeg.
Erbyn hyn, ’rwyf wedi cael tipyn o ymarfer. ’Rwyf wedi gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg gyda babanod a phlant iau mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd. ’Rwy’n teimlo’n gyffyrddus wrth ddweud fy mod i yn yr un sefyllfa a’r mwyafrif ohonyn nhw. ’Rwyf i yn dysgu hefyd!
’Rwyf hefyd yn cael sbort wrth berfformio fy storïau gyda grwpiau cymunedol cymysg o oedolion a phlant, dysgwyr a Chymry Cymraeg – er enghraifft y grŵp Miri Medi yng Nghroesgoch yn Sir Benfro. Anrhydedd mawr oedd mynd fel gwraig wadd at yr Hoelion Wyth yn Nhrefin i siarad am Shemi Wâd, yr hen storïwr a oedd yn byw yn Wdig yn y ddeunawfed ganrif. ’Rwyf wedi sgrifennu amdano yn fy llyfr newydd o'i storiau, Shemi's Tall Tales.
|  |
| Shemi mewn pasbord |
|
Ysgolion
Cewch ddewis:
Cliciwch yma am gael gweld sut i gyflwyno cais i Academi i gael cyllid tuag at ymweliad.
|  |
| Ysgol Mathri, Sir Benfro |
|
Perfformiadau
Cewch ddewis y rhaglen:
- O Farw’n Fyw - Shemi Wâd a'i storïau
- O Bell ac Agos – Noson o Storïau ar Lafar
Cysylltu
Rhowch ffôn neu e-bost i siarad am beth sydd eisau:
e-bost:
ffôn symudol: 07971 008 574.
Hwyl fawr!